We look back at some of the history of Y Madryn.
We look back at some of the history of Y Madryn.
Adeiladwyd Y Madryn yn 1868 fel rhan o Ystad Madryn (Tudweiliog), oedd yn eiddo i Sir Love Jones-Parry.
Dyfodiad y rheilffordd yn Chwilog oedd y prif rheswm dros adeiladu Y Madryn, ac fe’i hagorwyd yn wreiddiol fel gwesty yn ogystal a thy tafarn. Un o rhesymau pennaf y cafodd Y Madryn ei adeiladu oedd fel cysylltiad o’r stesion drên i Borthdinllaen. Ar y pryd, Porthdinllaen oedd wedi ei adnabod fel lleoliad ar gyfer porthladd rhwng Gogledd Cymru a Iwerddon, ac roedd lôn syth o stesion Chwilog i Borthdinllaen wedi ei hadeiladu ar gyfer y pwrpas yma.
Ar ol i gynllun Pothdinllaen fethu a’r prif borthladd gael ei leoli yng Nghaergybi, adeiladwyd marchnad anifeliad (mart) tu ôl i Madryn (Cefn Sel/Madryn Bach) a defnyddwyd y stesion drên i drosglwyddo anifeiliad i’r mart. Yn ogystal, adeiladwyd stesion betrol masnachol drws nesaf i’r dafarn a mae rhai o drigolion Chwilog yn cofio arwydd y tu allan i’r stesion yn dweud fod Llundain 250 o filltiroedd i ffwrdd.
Y Madryn was built in 1868 as part of the Madryn estate (Tudweiliog) owned by Sir Love Jones Parry.
The arrival of the railway in Chwilog was the main reason for building the Madryn and therefore to create a direct connection between the train station and Porthdinllaen. At this time, Porthdinllaen, were working on plans to become the main port between North Wales and Ireland and therefore a direct and straight road was built from Chwilog train station to Porthdinllaen to serve this purpose.
After Porthdinllaen missed out and the port was awarded to Holyhead a Livestock market (Mart) was built behind the Madryn (next to Madryn Bach) and the train station was used to transport animals to the ‘mart.’ A commercial petrol station was also built next to the pub and some locals have referred to a sign outside of the petrol station, indicating that London was 250 miles away.